EVENT - DIGWYDDIAD - FEBRUARY - CHWEFROR 2025 CYMRAEG
27 CHWEFROR 2025
6 for 6.30 - 7.45
Cyn i Chwefror ddod i ben, mae dal amser ar gyfer digwyddiad cymdeithasol llyfrau Dydd Iau-Olaf-y-Mis ym Mhenrallt
’naming the trees’/‘Enwi'r Coed’
NESS OWEN
with guest poets
Suzanne Iuppa and Si Griffiths
(lluniaeth wedi'i gynnwys)
TOCYNNAU £5
Wedi’i ysbrydoli gan yr ymgyrch i achub coedwig hynafol Penrhos rhag cael ei throi’n wersyll gwyliau, mae Naming the Trees yn dathlu byd natur, ac yn ystyried (gyda pheth rhwystredigaeth) y ffyrdd amrywiol y mae ymyrraeth ddynol yn ei bygwth.
guest poet, Suzanne Iuppa
guest poet, Si Griffiths
Mae Ness yn cael sgwrs barhaus â’i mamiaith, ac yn y casgliad hwn, mae’n gwneud cysylltiad rhwng diystyru mamiaith a chynefin cynhenid.
Er mai yn Saesneg y’i hysgrifennwyd yn bennaf, mae Naming the Trees yn cynnwys sawl cerdd sy’n cael ei chyflwyno’n ddwyieithog – yn Gymraeg ac yn Saesneg.
“. . .As we plead with them not to fell our ancient forests
Seeing that we ask them not to build a fence to keep us out
Given that, in our language, we can dod yn ôl at ein coed
Considering that trees rose in battle Since our trees can half burn
While trees are our lungs, our hearts, our medicine. . .”
Mae Ness Owen yn byw ar Ynys Môn, oddi ar arfordir gogledd Cymru, lle mae’n ysgrifennu dramâu, barddoniaeth a straeon rhwng darlithio a ffermio. Mae ei cherddi wedi'u cyhoeddi'n eang mewn cyfnodolion a blodeugerddi. Cyflwynodd Ness ei chasgliad cyntaf, Mamiaith, yma yn 2019 ac roedd hi’n un o ddwy oedd yn olygyddion gwadd y flodeugerdd ddwyieithog, A470, a gyflwynwyd yn Siop Lyfrau’r Senedd-dy yn 2021.