DIGWYDDIAD - TACHWEDD 2024
‘voices on the path: a history of walking in wales’
I unrhyw un sydd â diddordeb mewn cerdded, hanes cymdeithasol Cymru (gan gynnwys traddodiadau pererindod, llafur diwydiannol, protest, iaith, twristiaeth a hamdden), a hanes llenyddiaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg, bydd llyfr diweddaraf Andrew Green, Voices on the Path: A History of Walking in Wales, yn ddeunydd darllen gaeafol perffaith.
Nid yw wedi’i gynllunio fel llyfr academaidd, ond mae’r nodiadau diwedd yn galluogi darllenwyr i ddilyn y ffynonellau printiedig a llawysgrifol a ddefnyddiwyd, gyda ffotograffau lliw yn cyd-fynd â’r testun drwyddo draw.
Gwas Carreg Gwalch - £14.99
Digwyddiad gyda’r awdur,
Andrew Green
Yn sgwrsio efo
Mike Parker
Yn y sgwrs ddarluniadol hon gyda’r awdur, cerddwr a pherson sy’n dwli ar fapiau, Mike Parker, bydd Andrew Green yn mynd â ni ar daith droellog drwy hanes cerdded yng Nghymru. Mae’r stori’n dechrau yn olion traed pobl Fesolithig ym mwd rhynglanwol aber Hafren.
Ar hyd y daith, cawn ein gwahodd i orffwys a threulio amser gyda rhai o’r cerddwyr mwyaf diddorol, gan gynnwys Gerallt Gymro, Samuel Taylor Coleridge, Francis Kilvert, George Borrow, Anne Lister, Ursula Martin, Hanna Engelkamp a Delyth Jenkins.
Bydd Andrew hefyd yn ein cyflwyno i gerddwyr hynod eraill, y mae llawer ohonynt yn brin gyfarwydd. Trwy lygaid y cerddwyr hyn, gallwn ddysgu llawer am sut roedd y Cymry’n byw, a sut roedd Cymru’n cael ei gweld gan bobl o’r tu allan.
Y cyfan o'ch sedd yn awditoriwm hardd Y Tabernacl.
Lansiad
gyda Andrew Green
Yn sgwrsio efo
Mike Parker
Lleoliad:
Y Tabernacl, MoMA
Machynlleth, SY20 8A
15 Tachwedd 2024
Nos Wener, 7.30
bar a lluniaeth ar gael 7pm
Tocynnau
£5.00
Magwyd Andrew yn Swydd Efrog, a symud
i Gymru yn y 1970au, gan ddechrau dysgu Cymraeg yn yr 1980au. Bu'n llyfrgellydd mewn prifysgolion yn Aberystwyth, Caerdydd, Sheffield ac Abertawe cyn dod yn Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1998. Ers ymddeol yn 2013 mae'n awdur a cherddwr brwd. Mae ei lyfrau yn cynnwys, Cymru mewn 100 gwrthrych / Wales in 100 Objects (2018).