DYGWIDDIADAU - SOCIAL BUSINESS IN ACTION - EVENTS - CYMRAEG
LANSIO A CHYFLWYNIAD LLYFRAU:
SOCIAL BUSINESS
A MODEL FOR THE FUTURE?
gyda awduron, Richard Grover a Ros Tennyson
dydd sadwrn 8 mawrth, 3 - 5yp
lleoliad:
Senedd-dy Owain Glyndŵr, Machynlleth
Bydd Richard Grover a Ros Tennyson, cyd-sylfaenwyr Trigonos ac awduron y cyhoeddiad newydd, Social Business in Action – Trigonos in Eryri, yn rhoi ciplun i ni o stori Trigonos. Byddan nhw wedyn yn agor y llawr i gael sgwrs am sut gall busnes cymdeithasol fod yn gyfrwng ar gyfer newid arloesol a chynaliadwy mewn byd sydd ei angen yn ddirfawr.
Digwyddiad trwy gyfrwng y Saesneg
Tocynnau ymlaen llaw: £5
o Siopau Llyfrau Penrallt neu Senedd-dy
neu ar y drws
“Ths is an inspiring story and shows how such initiatives are possible wherever there is determination, a sense of place and a strong connection to the local community. I hope this book helps spread the news throughout Wales and beyond about the potential and positive impact of social businesses.”
AM YR AWDURON
Cyn symud i Gymru yn 1992, bu Richard Grover am flynyddoedd yn gweithio fel cyfarwyddwr prosiect adsefydlu gyda phobl ddigartref, neu’r rhai a ddeuai allan o’r carchar neu ofal sefydliadol hirdymor. Roedd y prosiect yn cynnig swydd a chartref i’r bobl hyn yn y gobaith bod y rhain yn sylfaenol i ailadeiladu ymdeimlad o hunanhyder a hunan-werth. Richard oedd Rheolwr Gyfarwyddwr [Trigonos] rhwng 1996 a 2020.
Symudodd Judy Harris i Gymru o Norwich lle roedd hi wedi dechrau cylch chwarae bach i’r gymdogaeth. Yna, aeth ati i greu gardd gymunedol fawr – a arweiniodd at rentu stondin marchnad i werthu’r cynnyrch dros ben. Daeth gweithio ar y tir yn waith bywyd iddi a’i phrif rôl yn [Trigonos] oedd adfer y tir i gynhyrchiant cynaliadwy ac archwilio pwysigrwydd hanfodol y gyd-ddibyniaeth rhwng y tir ac ymdeimlad pobl o les.
Roedd gan Ros Tennyson amrywiaeth eang o rolau (cyflogedig a di-dâl) gan gynnwys: gweithio mewn theatr ymylol; rheoli prosiect ar gyfer pobl ifanc yn lle dedfrydau o garchar; sefydlu cegin gymunedol; goruchwylio rhaglen interniaeth; arwain menter ymchwil ar integreiddio meddygaeth 'amgen' i gyfleusterau gofal sylfaenol y GIG ac, yn fwyaf diweddar, hyrwyddo partneriaethau cynaliadwy a thrawsnewidiol rhwng busnesau, y llywodraeth a chymdeithas sifil.
“Ni fu erioed adeg pwysicach i arddel y model busnes cymdeithasol fel modd i wrthsefyll risgiau’r trychinebau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol sydd ar ddod, yn yr ynysoedd hyn ac yn y byd yn gyffredinol.”
Social Business in Action – Trigonos in Eryri
Cyhoeddwyd gan Y Lolfa, (£12.99)
ac mae ar gael o Siopau Lyfrau Penrallt/Senedd-dy
o 7 Chwefror 2025